2012 Rhif 1643 (Cy. 212)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Trosi o fod yn Fwrdd Gweithredol Interim) (Cymru) 2012

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chorff llywodraethu ysgol yn trosi o fod yn gorff a gyfansoddwyd fel bwrdd gweithredol interim yn unol ag Atodlen 1A i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 i fod yn gorff llywodraethu a gyfansoddwyd yn unol ag adran 19(1) o Ddeddf Addysg 2002.

O leiaf chwe mis cyn i'r bwrdd gweithredol interim beidio â gweithredu rhaid i'r awdurdod  lleol wneud trefniadau i sefydlu corff llywodraethu cysgodol (rheoliad 5).  Cyfansoddir y corff llywodraethu cysgodol yn yr un modd â chorff llywodraethu a gyfansoddwyd yn llawn o dan Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005, ac felly bydd ganddo'r un categorïau o lywodraethwyr a'r un nifer o lywodraethwyr ar gyfer gwahanol fathau o ysgolion (rheoliadau 6 a 7).

Mae darpariaethau Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 sy'n ymwneud â chymwysterau llywodraethwyr, ymddiswyddiadau llywodraethwyr a symud llywodraethwyr o'u swyddi yn gymwys i lywodraethwyr cysgodol (rheoliad 8). Gwneir darpariaeth ar gyfer penodi cadeirydd, is-gadeirydd a chlerc (rheoliadau 9 a 10).  Rhaid i gorff llywodraethu cysgodol gyflawni unrhyw swyddogaethau a gaiff eu dirprwyo iddo gan y bwrdd gweithredol interim (rheoliad 12). Rhaid i'r clerc fynychu cyfarfodydd y corff llywodraethu cysgodol a sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw ac yn cael eu llofnodi gan y cadeirydd. Yn ddarostyngedig i eithriadau penodol (a nodir yn rheoliad 14(2)), rhaid trefnu bod y cofnodion hynny ar gael i bersonau sydd â buddiant.  Ym mhob ffordd arall rhaid i'r corff llywodraethu cysgodol benderfynu ei weithdrefn ei hun (rheoliad 11).

 

Pan fo'r aelodau gweithredol interim yn gadael eu swydd,  ymdrinnir â'r corff llywodraethu cysgodol fel petai'n  gorff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal. Ymdrinnir â'r llywodraethwyr cysgodol fel pe baent wedi bod yn llywodraethwyr corff llywodraethu a gyfansoddwyd yn llawn o ddyddiad y penodiad neu'r etholiad, a rhaid trin y cadeirydd, is-gadeirydd a'r clerc fel pe baent wedi cael eu hethol neu eu penodi o dan Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 (rheoliad 15).

 


2012 Rhif 1643 (Cy. 212)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Trosi o fod yn Fwrdd Gweithredol Interim) (Cymru) 2012

Gwnaed                               22 Mehefin 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       26 Mehefin 2012

Yn dod i rym                              1 Medi 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraff 19(2) a (3) o Atodlen 1A i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998([1]) ac a freiniwyd bellach ynddynt([2]), a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 2002([3]) ac a freiniwyd bellach ynddynt([4]), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1)  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Trosi o fod yn Fwrdd Gweithredol Interim) (Cymru) 2012 a deuant i rym ar 1 Medi 2012.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “aelod gweithredol interim” (“interim executive member”) yw aelod o gorff llywodraethu a gyfansoddwyd yn unol ag Atodlen 1A i Ddeddf 1998;

ystyr “awdurdod”(“authority”) yw’r awdurdod  lleol y mae ysgol a gynhelir yn cael ei chynnal ganddo;

ystyr “bwrdd gweithredol interim” (“interim executive board”) yw corff llywodraethu a gyfansoddwyd yn unol ag Atodlen 1A i Ddeddf 1998 (cyrff llywodraethu o aelodau gweithredol interim);

mae i “corff llywodraethu cysgodol” (“shadow governing body”) a “llywodraethwyr cysgodol” (“shadow governors”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 5(2);

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

ystyr “Deddf 2002” ("the 2002 Act") yw Deddf Addysg 2002; ac

ystyr “y Rheoliadau Llywodraethu” (“the Government Regulations”) yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005([5]).

Eithrio darpariaethau penodol

3.  Ac eithrio fel a nodir isod nid yw rheoliadau a wneir yn rhinwedd is-adrannau (2) neu (3) o adran 19 neu adran 23 o Ddeddf 2002  i fod yn gymwys mewn perthynas â chorff llywodraethu cysgodol.

Addasiadau o’r Rheoliadau Llywodraethu

4.(1)(1) Mae’r addasiadau canlynol i’r Rheoliadau Llywodraethu yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(2) Mae cyfeiriadau at “corff llywodraethu”, “llywodraethwr” a “llywodraethwyr” i'w darllen fel cyfeiriadau at “corff llywodraethu cysgodol”, “llywodraethwr cysgodol” a “llywodraethwyr cysgodol”.

(3) Mae cyfeiriadau at wahanol gategorïau o lywodraethwyr i'w darllen fel cyfeiriadau at lywodraethwyr cysgodol o'r un categori.

Trefniadau ar gyfer sefydlu corff llywodraethu cysgodol

5.(1)(1) O leiaf chwe mis cyn y dyddiad a roddir mewn hysbysiad a gyflwynir o dan adran 16A(1)([6]) neu 18A(1)([7]) o Ddeddf 1998, neu baragraff 17(1) o Atodlen 1A iddi, fel y dyddiad y mae'r corff llywodraethu i ddod yn gorff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal, rhaid i'r awdurdod wneud trefniadau sy'n darparu ar gyfer sefydlu corff llywodraethu i'r ysgol gan ragweld y trosiad i gorff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal([8]). 

(2) Yn y Rheoliadau hyn, cyfeirir at gorff llywodraethu a sefydlir felly fel corff llywodraethu cysgodol  a chyfeirir at aelodau o'r corff llywodraethu cysgodol fel llywodraethwyr cysgodol .

(3) Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn rhwystro aelod gweithredol interim rhag cael ei benodi neu ei ethol yn llywodraethwr cysgodol.

Aelodau o gorff llywodraethu cysgodol 

6. Cyfansoddir corff llywodraethu cysgodol o aelodau a etholwyd neu a benodwyd yn ôl y digwydd yn unol â rheoliadau 4 i 12A o’r Rheoliadau Llywodraethu fel y'u haddaswyd gan reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn.

Cyfansoddiad corff llywodraethu cysgodol

7. Rhaid i gorff llywodraethu cysgodol ysgol gael ei gyfansoddi'n unol â'r rheoliadau 13 i 20 hynny o’r Rheoliadau Llywodraethu, fel y'u haddaswyd gan reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys wrth roi sylw i gategori'r ysgol.

Cymwysterau, ymddiswyddiadau a symud llywodraethwyr cysgodol o'u swyddi

8. Mae rheoliadau 24 a 26 i 30 o’r Rheoliadau Llywodraethu ac Atodlen 5 iddynt fel y'u haddaswyd gan reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran llywodraethwyr cysgodol.

Cadeirydd ac is-gadeirydd

9.(1)(1) Rhaid i'r corff llywodraethu cysgodol, yn ei gyfarfod cyntaf, ethol o blith ei aelodau gadeirydd ac is-gadeirydd y corff llywodraethu cysgodol.

(2) Ni chaniateir ethol person sy'n cael ei gyflogi i weithio yn yr ysgol i fod yn gadeirydd neu'n is-gadeirydd.

(3) Caiff cadeirydd neu is-gadeirydd y corff llywodraethu cysgodol, ar unrhyw adeg, ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu cysgodol.

(4) Rhaid i gadeirydd neu is-gadeirydd y corff llywodraethu cysgodol beidio â dal ei swydd:

(a)     os yw'n peidio â bod yn llywodraethwr cysgodol; neu

(b)     os yw'n cael ei gyflogi i weithio yn yr ysgol.

(5) Pan fo swydd cadeirydd neu is-gadeirydd yn dod yn wag, rhaid i'r corff llywodraethu cysgodol yn ei gyfarfod nesaf ethol un o blith ei aelodau i lenwi'r swydd wag honno.

(6) Pan fo'r cadeirydd yn absennol o unrhyw gyfarfod neu fod swydd y cadeirydd yn wag ar y pryd, rhaid i'r is-gadeirydd weithredu fel cadeirydd at bob diben.

Penodi clerc

10.(1)(1) Rhaid i'r awdurdod  benodi'r clerc i'r corff llywodraethu cysgodol.

(2) Rhaid i glerc y corff llywodraethu cysgodol beidio â bod—

(a)     yn llywodraethwr cysgodol; neu

(b)     yn bennaeth yr ysgol.

(3) Er gwaethaf paragraff (2), caiff y corff llywodraethu cysgodol, pan fo'r clerc yn methu â mynychu un o gyfarfodydd y corff hwnnw, benodi unrhyw un o blith aelodau'r corff i weithredu fel clerc at ddibenion y cyfarfod hwnnw.

Gweithdrefn

11. Caiff y corff llywodraethu cysgodol benderfynu ei weithdrefn ei hun, yn ddarostyngedig i reoliadau 13 a 14.

Dirprwyo swyddogaethau

12. Rhaid i'r corff llywodraethu cysgodol arfer unrhyw swyddogaethau sydd wedi'u dirprwyo iddo gan y bwrdd gweithredol interim.

Swyddogaethau'r clerc

13. Rhaid i glerc y corff llywodraethu cysgodol:

(a)     mynychu cyfarfodydd y corff llywodraethu cysgodol a sicrhau bod cofnodion o'r trafodion yn cael eu gwneud a'u llofnodi (yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y corff llywodraethu cysgodol) gan gadeirydd y cyfarfod; a

(b)     cyflawni unrhyw swyddogaethau eraill a benderfynir gan y corff llywodraethu cysgodol o bryd i'w gilydd.

Cofnodion

14.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r corff llywodraethu cysgodol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, drefnu bod copi o'r canlynol ar gael i'w archwilio yn yr ysgol —

(a)     yr agenda ar gyfer pob cyfarfod;

(b)     cofnodion llofnodedig pob cyfarfod; ac

(c)     unrhyw adroddiad neu bapur arall a gafodd ei ystyried yn y cyfarfod.

(2) Caniateir eithrio o unrhyw eitem y mae'n ofynnol ei rhoi ar gael yn unol â pharagraff (1), unrhyw ddeunydd sy'n ymwneud â'r canlynol—

(a)     person a enwir sy'n gweithio, neu y bwriedir iddo weithio, yn yr ysgol;

(b)     disgybl a enwir neu ymgeisydd a enwir am gael ei dderbyn i'r ysgol; neu

(c)     unrhyw fater arall sydd, oherwydd ei natur, yn fater y mae'r corff llywodraethu cysgodol wedi'i fodloni y dylai aros yn gyfrinachol.

Diwedd y cyfnod interim

15. O'r diwrnod y mae'r aelodau gweithredol interim yn peidio â dal eu swydd yn unol â pharagraff 18(1) o Atodlen 1A i Ddeddf 1998—

(a)     mae'r corff llywodraethu cysgodol i'w drin fel pe bai'n gorff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal;

(b)     mae aelodau o'r corff llywodraethu cysgodol i'w trin fel pe baent wedi bod yn aelodau o gorff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal o ddyddiad eu penodiad neu eu hetholiad yn ôl y digwydd;

(c)     mae cadeirydd ac is-gadeirydd y corff llywodraethu cysgodol i'w trin fel pe baent wedi cael eu hethol o dan reoliad 39(1) o’r Rheoliadau Llywodraethu;

(ch) mae clerc y corff llywodraethu cysgodol i'w drin fel pe bai wedi cael ei benodi o dan reoliad 42 o’r Rheoliadau Llywodraethu.

 

 

 

 

 

 

 

Leighton Andrews

 

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

 

22 Mehefin 2012

 



([1]) 1998 p.31.  Mewnosododd adran 59(2) o Ddeddf 2002 Atodlen 6 i'r Ddeddf honno i mewn i Ddeddf 1998 fel Atodlen 1A.  I gael ystyr “regulations” gweler adran 142(1).

([2]) Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Atodlen 1A i Ddeddf 1998 (fel y’i mewnosodwyd gan Ddeddf 2002) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 211 o Ddeddf 2002, ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

([3]) 2002 p.32. I gael ystyr “regulations” gweler adran 212(1).

([4]) Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 19 o Ddeddf 2002 i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

([5]) O.S. 2005/2914 (Cy.211), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/3200 (Cy.236).

([6]) Mewnosodwyd gan adran 57 o Ddeddf 2002 a'i diwygio gan Atodlen 9 i Ddeddf Addysg 2005 (p.18) a chan Atodlen 7 i Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40).

([7]) Mewnosodwyd gan adran 59 o Ddeddf 2002 a'i diwygio gan Atodlen 9 i Ddeddf Addysg 2005 a chan Atodlen 7 i Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006.

([8]) Fel y diffinnir “normally constituted governing body” ym mharagraff 1(1) o Atodlen 1A i Ddeddf 1998.